Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Drafnidiaeth Gymunedol
DYDD MERCHER 11 CHWEFROR 2015 am 12.00 o’r gloch
Tŷ Hywel, Ystafell Fwyta 3
Yn bresennol: Eluned Parrott AC (Cadeirydd), Hatti Woakes (Fforwm Trafnidiaeth Gogledd Sir Benfro), Ceri Cryer (Age Cymru), Iwan Williams (Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn), Paul Harding (Staff Cymorth AC), Sian Summers-Rees (Cymdeithas Drafnidiaeth Gymunedol - CTA Cymru), David Brooks (CTA Cymru)
1. Croeso, cyflwyniadau, ymddiheuriadau
Dechreuodd Eluned y cyfarfod drwy ofyn i aelodau gyflwyno eu hunain, a diolchodd i bawb am fod yn bresennol. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC a Janet Finch-Saunders AC.
Cyn symud at y prif eitemau ar yr agenda, dywedodd Eluned bod grwpiau Trawsbleidiol yn gorfod cydymffurfio â rheolau newydd bellach, sy’n cynnwys cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chyhoeddi cofnodion ac adroddiadau ariannol ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hyn er mwyn sicrhau tryloywder llwyr, a bod yn agored.
Nododd Eluned hefyd fod y Llywydd wedi dweud nad oedd y Grŵp Trawsbleidiol ar Drafnidiaeth Gymunedol wedi cyfarfod ers 18 mis. Mae datganiad bwriad y grŵp ar wefan Llywodraeth Cymru, ond mae’r grŵp yn cydnabod, yn ôl pob tebyg, bod angen datganiad bwriad newydd, er bod yr heriau a wynebir gan Gludiant Cymunedol yn aros yr un fath fwy neu lai. Dywedodd Eluned wrth y grŵp y bydd yn cysylltu â’r Llywydd ac yn cwrdd ag Aelodau Cynulliad eraill i fywiogi’r grŵp a cheisio cael rhagor o bobl i fod yn bresennol.
Cam i’w gymryd: Eluned i anfon linc i ddatganiad bwriad y grŵp Trawsbleidiol i’r aelodau.
Cynigiwyd bod Eluned yn parhau fel Cadeirydd y Grŵp a bod Siân Summers-Rees, Cyfarwyddwr CTA Cymru, yn gweithredu fel ysgrifenyddiaeth, ac eiliwyd hynny.
2. Cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 25 Medi 2013, a materion yn codi
Cytunwyd ar y cofnodion fel cofnod cywir o’r cyfarfod blaenorol. Nododd Eluned y byddai hi’n siarad ag aelodau ynghylch pynciau i’w trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, ac y byddai modd cytuno arnynt drwy e-bost.
3. Cyflwyniad CTA Cymru - ‘Trosolwg o’r ddarpariaeth Cludiant Cymunedol a’r Adroddiad ar Gyflwr y Sector’:
Dechreuodd Sian y cyflwyniad gyda throsolwg o Gludiant Cymunedol yng Nghymru, a rhoddodd grynodeb o ystadegau o’r Adroddiad ar Gyflwr y Sector, sydd newydd ei gyhoeddi. Siaradodd Sian am y modd y mae’r galw am wasanaethau wedi cynyddu’n sylweddol ers yr adroddiad diwethaf, a gyhoeddwyd yn 2010, a bod hyn yn rhoi mwy o bwysau ar weithredwyr Cludiant Cymunedol, ac ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau.
Soniodd Sian am wahanol enghreifftiau o Gludiant Cymunedol, gan gynnwys Dial-a-Ride, cynlluniau Ceir Cymunedol, Llogi ceir gan Grwpiau, ac am brosiect Wheels to Work. Mae’r fframwaith cyfreithiol o ran Adran 19 a 22 y rheoliadau trwyddedu yn golygu na all gweithredwyr Cludiant Cymunedol wneud elw, sy’n golygu ei bod yn anodd sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy. Fodd bynnag, soniodd Sian mai mantais y system drwyddedau yw nad yw Cludiant Cymunedol yn gweithredu o dan yr un cyfyngiadau gweithredu â darparwyr masnachol.
Nododd Sian, er bod nifer y gwirfoddolwyr yn y sector yn dal yn uchel, bu gostyngiad o ran nifer y staff cyflogedig yn y maes. Amlygodd yr adroddiad hefyd bod oedran cyfartalog cerbydau wedi cynyddu, ac nad oes cronfa ar gael i adnewyddu cerbydau yng Nghymru.
O ran cyllid, mae awdurdodau lleol wedi cymryd yr awenau gan y Consortia Teithio Rhanbarthol, sydd wedi’i ddileu, ac maent yn parhau i weithio ar sail ranbarthol, fodd bynnag, nid oes dim buddsoddiad newydd yn dod i’r sector. Ar hyn o bryd mae gweithredwyr Cludiant Cymunedol yn aros i glywed a oes unrhyw doriadau i’r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau (BSSG) ar gyfer 2015/16, ac mae pryderon hefyd o ran hysbysiad hwyr am y grant, sydd â goblygiadau o ran cynllunio ar gyfer gweithredwyr. O ran caffael a chomisiynu, mae awdurdodau lleol yn amharod i fabwysiadu cymalau budd cymunedol fel rhan o’r pwysiad o ran tendro, sy’n ei gwneud yn anodd i Gludiant Cymunedol ennill contractau.
Soniodd Sian hefyd am faterion eraill sy’n wynebu Cludiant Cymunedol, gan gynnwys cwmnïau bysiau masnachol yn cwyno wrth yr Undeb Ewropeaidd fod y gyfundrefn drwyddedu yn creu cystadleuaeth annheg, a’r heriau / cyfleoedd o ran darparu Cludiant i Gleifion nad ydynt yn Gleifion Brys yng Nghymru.
I gloi, nododd Sian fod Cludiant Cymunedol yn gwneud cyfraniad a gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl fregus a difreintiedig yng Nghymru. Roedd prif argymhellion yr adroddiad yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried: -
- Cynnal adolygiad ariannu’r sector, i archwilio tegwch y trefniadau ariannu presennol; dylai hyn gynnwys adolygiad o docynnau teithio rhatach, ystyried adfer cronfa grant cyfalaf, yn ogystal ag adolygiad o’r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau (BSSG) yng nghyd-destun yr anawsterau penodol a wynebir gan y sector trafnidiaeth gymunedol.
- Hyrwyddo’r angen am ddyfarniadau arian ar gylch o dair blynedd o leiaf, os yn bosibl, er mwyn hwyluso gwaith cynllunio strategol mwy effeithiol a gwell.
- Ymgynghori ar y gwaith o ddatblygu strategaeth Cymru-gyfan ar gyfer cludiant cymunedol a fyddai:
· yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rôl y sector fel elfen hanfodol o’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus;
· archwilio gallu sefydliadau cludiant cymunedol yn y sector;
· meithrin rhagor o gydweithio ar draws ffiniau;
· sefydlu safonau ansawdd perfformiad (sy’n cyd-fynd â safonau CTA);
· hwyluso’r arfer o ddarparu gwybodaeth a chyhoeddusrwydd digonol ac effeithiol ar drafnidiaeth gymunedol;
· sicrhau bod cyllid yn deg a chymesur ar draws y wlad;
· dileu anghydraddoldeb daearyddol mewn perthynas â mynediad at wasanaethau i deithwyr, a chost y gwasanaethau.
4. Sesiwn holi ac ateb
Er nad oedd dim cwestiynau penodol ynghylch y cyflwyniad, gwnaeth Eluned y pwynt fod angen datblygu gwell dealltwriaeth o’r hyn y bydd Cludiant Cymunedol yn ei olygu yn y dyfodol e.e. sut fydd Cludiant Cymunedol yn cyd-fynd â’r amrywiaeth o gludiant ehangach o ran y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol? Dywedodd Eluned hefyd fod angen i ni geisio ehangu’r trafodaethau o ran Cludiant Cymunedol, ac nid trafod prosiectau seilwaith mawr fel ffordd liniaru’r M4 yn unig.
Nododd Hatti y pwynt y byddai o fudd pe gellid casglu rhagor o syniadau a barn pobl sy’n byw yn ein cymunedau gwledig, er mwyn ceisio tynnu sylw at broblemau trafnidiaeth wledig, a thrwy hynny hyrwyddo Cludiant Cymunedol.
Mynegodd Iwan gynnig o gefnogaeth gan y Comisiynydd Pobl Hŷn, i helpu i hybu ymwybyddiaeth o Gludiant Cymunedol, a gwnaeth y pwynt bod llawer o bobl hŷn yn dibynnu ar eu cynllun Cludiant Cymunedol lleol ac yn ei werthfawrogi.
5. Pynciau i’w trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol
Nodwyd cludiant cleifion nad ydynt yn gleifion brys fel pwnc allweddol ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol. Gellir nodi enghreifftiau o wasanaethau yn cael eu cwtogi ym maes iechyd, er enghraifft, roedd trosglwyddo rhai gwasanaethau mamolaeth yng Ngorllewin Cymru i Ysbyty Glangwili wedi cael effaith negyddol ar gleifion a pherthnasau. Mae lle i Gludiant Cymunedol chwarae rhan bwysig o ran trafnidiaeth ym maes iechyd.
Nodwyd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol hefyd fel eitem i’w thrafod yn y dyfodol.
6. Unrhyw Fater Arall:
Nododd Sian y byddai Cynhadledd CTA Cymru yn cael ei chynnal ar 4 Mawrth yn Stadiwm Liberty, Abertawe. Bydd Vaughan Gethin AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd yn cyflwyno’r anerchiad agoriadol.
7. Dyddiad y cyfarfod nesaf:
Dyddiad i’w gadarnhau (bydd yn dibynnu ar drafodaeth rhwng Eluned a’r Llywydd - i’w gadarnhau).